![Tunstall TaiDoc 1261 Reference Manual Download Page 2](http://html1.mh-extra.com/html/tunstall/taidoc-1261/taidoc-1261_reference-manual_1180114002.webp)
Canllaw i'r Claf - Thermomedr y Glust (TaiDoc1261)
2
Cyflwyniad
Croeso i'n Canllaw i'r Claf i'ch cynorthwyo i ddefnyddio'ch Thermomedr.
Gwybodaeth Bwysig
Defnydd Bwriadedig
Darperir eich Thermomedr TaiDoc 1261 i'w defnyddio ar y cyd â'r ddyfais a'r feddalwedd
myMobile. Cyfeiriwch at yr adran 'defnydd bwriadedig' yng nghanllaw myMobile i gael rhagor o
wybodaeth.
Cyfarwyddiadau ynghylch sut i'w ddefnyddio
Pan ofynnir ichi gymryd eich tymheredd gan myMobile, dilynwch y camau isod:
CAM 1
Sicrhewch fod rhan allanol eich clust yn lân ac yn sych - PEIDIWCH Â
glanhau clustiau gan ddefnyddio ffon gotwm. Gall hyn niweidio'ch
clust. Gofynnwch am gymorth gan eich gweithiwr iechyd proffesiynol
os ydych yn credu bod llawer o gwyr yn eich clustiau neu os oes
gennych unrhyw fater arall sy'n ymwneud â'r clyw.
CAM 2
Trowch y thermomedr ymlaen drwy wasgu'r botwm 'ON' o dan y
sgrîn arddangos. Bydd y thermomedr yn dangos eich darlleniad
diwethaf.
CAM 3
Rhowch y chwiliedydd â'r gorchudd yn ofalus i mewn i'ch clust.
CAM 4
Pwyswch ar y botwm 'scan' ar frig y thermomedr a daliwch y botwm i
lawr. Byddwch yn clywed s
ŵ
n bîp i gadarnhau bod eich mesuriad wedi'i
gwblhau a gellir tynnu'r thermomedr o'r glust. Dangosir eich canlyniad
diwethaf ar y sgrîn arddangos.